'Y mae yna fwy nag un chwyldroi distaw ar syniadau dynion yn cymryd lle bellach yn y byd, ac nid y lleiaf ohonynt yw’r dealltwriaeth newydd sy’n graddol ennill tir o ddyfnder a phwysigrwydd yr angen am wreiddiau. Ac yng nghraidd yr angen hwnnw y…
Pan fu farw Gwyn Thomas ddydd Mercher 13 Ebrill eleni, bu farw un o feirdd pwysicaf y Gymru sydd ohoni, ac un o’i hysgolheigion mwyaf gwerthfawr a goleuedig. I bawb a’i hadwaenai, bu farw hefyd ŵr na welir odid fyth ei gywirach, ysgrythurwr dygn a…
'Dw i’n ymddiddori yn yr un maes, yn ei hanfod, ers blynyddoedd lawer, sef astudiaeth anthropolegol o’r Moderniaid, neu’r bobl hynny sy’n eu galw’u hunain yn Bobl Fodern. Mae’n gwestiwn bythol. Yn ymarferol, dw i’n ymddiddori mewn dod o hyd i lwybr…
(o'r casgliad Chwerwder yn y Ffynhonnau, 1962) Cloër fi mewn cell o lyfrau A'i llythrennau a'i geiriau yn furiau, Ac ynddi un ddôr tuag Aber Henfelen. Pen a dorrwyd, a gwaed a gollwyd, Da a ddifawyd, dwy ynys a yswyd: ...
Am groesi llinell yr hanner cant, fy ngwobr gysur ar wyliau yn Fiena – catalog arddangosfa Fukushima. Ond nid delweddau’r apocalyps: anadliadau’r wlad, ei rhythmau beunyddiol, goddefol dros ddegawd a ddaliwyd ar lens ffotograffydd bum mlynedd…
Bûm i’r lleuad ganwaith mewn roced fain â’i henw “Dychymyg”. Ni welodd neb mohonof yn mynd. Ni ŵyr neb pa bryd y deuthum yn ôl. Ond mi fûm. Mi wn i hynny. Beth a welais i yno? Dim ond beth a ddywed y gwyddonwyr sydd yno. Trwy wydrau telisgop yr…
Eich copi o Orgraff yr Iaith Gymraeg Un naw dau wyth, clawr papur brown. Llyfr sych ond, hyd yn oed yma Rwy’n darllen fy ngholled. Chi, Er enghraifft, yw’r anadliad caled (Fy nhelyn, neu rhyfedd) Neu ‘Fy nhad,’ o, Ochenaid.
Mae broliant nofel ddiweddaraf Tony Bianchi, Sol a Lara, yn rhoi cip i ni ar hanes dau brif gymeriad, Sol Kussini a Lara Wyn, gan ddweud, 'O fewn ychydig wythnosau, mae Sol a Lara’n dod i adnabod ei gilydd yn well nag y byddai neb wedi’i ddisgwyl.'…
Mae Llwyd Owen yn gwybod beth sy’n apelio at ei ddarllenwyr. Straeon gafaelgar llawn cymeriadau brith, yn ddrwgweithredwyr a phlismyn, a dogn dda o bobol gyffredin wedi eu llusgo i’w rhwyd. Straeon sydd ddim yn orgymhleth, wedi eu hysgrifennu mewn…
Pan fydd coeden yn syrthio mewn coedwig, yr arferiad ymysg y boblach mewn cylchoedd mwy haniaethol eu diddordebau fydd holi: pe bai neb yno i glywed y twrw, a fyddai’r goeden wedi gwneud sŵn wrth syrthio? Wel, pan fu farw Dr Meredydd Evans llynedd,…
A chychwyn ar nodyn arwynebol braidd, pryd welsoch chi nofel Gymraeg mor bert ei golwg? Mae cyfrol newydd Sian Northey, Rhyd y Gro, yn datgan ei bwriad yn glir – ‘nofel o chwaeth ac ansawdd ydw i': y llythrennu anarferol, y lliwiau brownbinc a glas…
Pan gefais gwrdd am y tro cyntaf â’r ysgolhaig diymhongar a chadarn ei farn, ac un a fu’n Is-ganghellor mor llwyddiannus ym Mhrifysgol Bangor ers pum mlynedd, dywedodd John Hughes wrthyf nad oedd yn credu y gallai prifysgol fod yn brifysgol heb…
Bu’n wanwyn difyr. Anffyddiwr yn cyhoeddi Iddew, sef nofel am Yeshua (Iesu), a Christion, ar y cyd â chyn-offeiriad, yn cyhoeddi Duw yw'r Broblem gan ddadlau mai dyn sydd wedi creu duw. Mae crefydd ac anffyddiaeth yn llawn paradocsau ac o ddarllen y…
Y Blaned Lonydd, dyna sut byddai Ed yn meddwl am y lle. Roedd amser wedi aros yn stond yno. Deuai rhyw syrthni drosto gwta bum munud wedi iddo eistedd wrth fwrdd y gegin. '… Dawal yma, Dad.' 'Dyna'r aflwydd pennaf.' Doedd yna ddim yn digwydd yno,…
Roedd dydd Mawrth, 21 Hydref 1919 yn ddiwrnod llwyd o smwclaw ym Mhennal. Yn llofft gefn rhif pedwar, Rhes Rhosfarch, ganed Goronwy George James am dri munud i naw y bore, fel roedd cloch yr ysgol bentref yn canu. Hwn oedd pumed plentyn Ann, ac…
Tudalen 2 o 2
Tanysgrifio